Maen anodd credu fod blwyddyn arall wedi mynd heibio… cymaint wedi digwydd ac edrychwn ymlaen at y flwyddyn newydd gydag egni a brwdfrydedd
Mae’r rhestr o brosiectau ar ein llyfrau yn faith ac yn amrywiol.
Rhai prosiectau mawr yn dod I ben ..eraill yn dechre….. fe ddilynwn ni hynt a helynt rhai ohonynt ar ein blog
Cyn y Nadolig daeth llyfrau tecstiliau newydd Colefax and Fowler a Jane Churchill….yn fy marn i dyma’r casgliadau gorau gan y cwmnioedd yma ers rhai blynyddoedd. Mae’r lliwie ar dylunio yn eithriadol..
Er mai gofod stiwdio sydd gyda ni yma yn Towy Works…rydym wrth ein bodd yn ein cartre newydd ac yn gwneud ein gorau i arddangos casglaid dewisol o gelfi ac ategolion cyfoes er mwyn rhoi blas in cwsmeriaid or hyn sydd ar gael yma ac yn Ewrop.
Mae sefydlu y wefan newydd wedi bod yn ddatblygiad pwysig yn 2022 ac wedi cymryd orie o waith gan fy ngydweithwyr … does gen I ond diolch iddynt am ei dygnwch…diolch Diana Vickers a Guto Evans .
Mae’r strwythur yn i le nawr ac fe fyddwn yn adeiladu ar y fframwaith yma yn ystod y flwyddyn…cadwch i daro mewn i weld beth sy ar waith gyda ni
Felly…ffwrdd a ni ar daith newydd gyffrous 2023
Marian
Commenti