Ffoniwch - 01267 222375
Newidiodd y byd yn ystod y pandemig ac wrth drio symud ymlaen ac edrych ir dyfodol roedd rhaid meddwl am syniadau newydd.
​
I mi daeth cyfle newydd cyffrous i ail leoli o fewn adeilad hynafol Towy Works sy’n gatre i fusnes teuluol llwyddiannus a sy’n arddel yr un gwerthoedd a Pethau Bychain.
Fy stori
Gyda dros ugain mlynedd o brofiad yn y maes dylunio mewnol, dwi’n falch i gyfaddef bod gen i yr un brwdfrydedd heddiw a phan ddechreuais i a does dim yn well na gweld y canlyniad gorffenedig gyda phopeth yn ei le ar cwsmer wrth ei boddau. Mae’r adnoddau gen i i allu cynnig rhywbeth addas at bob chwaeth a rwyn falch iawn i rannu gwybodaeh am gyflenwyr Prydeinig ac Ewropeaidd.
Dros y blynyddoedd dwi wedi gweithio ar amryw o brosiectau,a ta waeth beth fo maint y gwaith, gwnaf fy ngorau i roi yr un sylw i bob un. Dwi wedi dysgu pryd i wrando a phryd i roi cyngor, a dwi’n cydweithio yn agos iawn gyda bob cwsmer er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd y prif nod.
​
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn un stiwdio , ond mae’n syndod gymaint o stoc sy’n gallu cael ei arddangos gydag ychydig o ail drefnu ac ychydig o ddychymyg! Galwch mewn i weld! Dwi yn tueddu i fod yn y stiwdio dydd Mercher - dydd Gwener, a tan hanner dydd, dydd Sadwrn.
Mae dydd Llun a dydd Mawrth wedi ei neulltuo i ymweld a phroseictau ar seit, ond yn ystod cyfnodau prysur mi rydwi weithiau yn gorfod mynd allan ar ddiwrnodau ychwanegol.
Croeso ichi alw i ngweld i unrhyw bryd, ond mae’n syniad da i ffonio ymlaenllaw i wneud yn siwr fy mod i ar gael, neu, well byth, beth am drefnu apwyntiad er mwyn sicrhau fy sylw i gyd! Mae Alffi a finnau yn edrych ymlaen yn arw i’ch croesawu i’n cartref Newydd (Mae Alffi mond yn cael dod ar ddydd Sadwrn)
Gadewch i ni Weithio Gyda'n Gilydd
Pethau Bychain, Towy Works
Y Cei, Caerfyrddin SA31 3JR
Tel: 01267 222375