Ffoniwch - 01267 222375
Projects
Bellach ar ol ugain mlynedd rydyn ni wedi gweithio ar bob mathau o adeiladau...tai cyfnod, tai newydd sbon tai bach teras ac ambell i siop a gwesty.
Ma pob un yn dod ai sialens i hunan ond mae’r pleser o weld prosiect yn dod i ben yn dal i roi gwefr.
​
Rwyf i fy hunan yn hoffi cynlluniau syml a chlasurol ond dymuniadau a gweledigaeth y cleient sy’n dod gyntaf a rhaid gweithio i wireddu ei gweledigeth nhw a, chyn bwysiced, gweithio o fewn y cyllid maent yn osod.
​
Os oes gennych brosiect ar y gweill y cam cyntaf yw trafodaeth fanwl ynglyn ar math a maint y prosiect. Yna,os yw’n briodol, ymweliad ar lleoliad a dilyn lan gyda syniadau ac esiamplau yn y stiwdio.
​
Dros y pandemig does dim os bod ein cartrefi a’n gerddi wedi bod yn hafan ac yn gysur i ni gyd a daeth yn amlwg bod creu amgylchedd hardd yn cyfrannu at ansawdd bywyd.
Wedi'i Deilwra
Mae amseroedd cyfnewidiol, yn enwedig dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, wedi gweld ein cartrefi yn dod yn ffynhonnell cysur a ffocws. Heb os nac oni bai mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r rôl y gall dylunio da a chlyfar ei chwarae wrth wireddu breuddwyd a chreu amgylchedd sy'n bleserus yn esthetig.
Celfi
Beth bynnag fo’ch steil, cyllid a’ch ffordd o fyw gallwn greu gofod sy’n unigryw i chi
Rwy wedi bod yn ymwelydd cyson i Maison Objet ym Mharis ers rhai blynyddoedd a bu hyn yn ysbrydoliaeth ac yn ffynhonell wybodaeth gwerthfawr ynglyn a tueddiadau a datblygiadau cyfoes.
​
Cefais gyfle i ddatblygu perthynas a chwmniau Ewropeaidd a,(hyd yn oed wedi Brexit, mae’r berthynas yma yn dal i barhau.
​
Golyga hyn ein bod yn medru dod o hyd i gelfi unigryw a gwahannol pan fo galw.
Ar yn llaw arall mae gennym wasanaeth ail orchuddio sy’n hynod o boblogaidd ac mae’r dewis eang o ddefnyddia gael yn ein stiwdio yn cynnig y siawns i greu delwedd hollo newydd i hen ffrindie!
​
Gair i gall yma... mae gennym restr aros gogyfer ar gwasanaeth hwn
Tecstiliau
Mae’n llyfrgell o ddefnyddiau yn cael i diweddaru yn reolaidd er mwyn cynnig y dewis mwya cyfredol mewn arddulliau cyfoes a thraddodiadol.
Ein nod yw cyfuno y gwasanaeth gore a chyngor doeth.
Mae rhai ategolion ar werth yn y stiwdio...megis lampiau, drychau, blancedi a chlustogau. Mae modd gweld trawstoriad or rhain ar ein gwefan o dan “click and collect”
​
Gallwch wneud apwyntiad yn y stiwdio i drafod prosiect casglu syniadau ac edrych ar y llyfre ar catalogiau perthnasol.
​
Neilltuwn tua awr ar gyfer hyn fel ac mae’r gost yn £30.
​
Mae ymweliad ar leoliad yn cynnwys trafodaeth olynol a bwrdd samplau defnyddie, phaent a chelfi. Mae’r gost o £75 yn cael ei dalu nol yn erbyn archeb.
Mae’r croeso yn gynnes a mae paned wastad ar gael ....galwch mewn
Let’s Work Together
Pethau Bychain, Towy Works
The Quay, Carmarthen SA31 3JR
E-Mail: sales@pethaubychain.co.uk
Tel: 01267 222375