Stoc newydd

Written by  in category 
Chwefror 20, 2019

Lle mae’r flwyddyn hon yn mynd yn barod?! Mae ‘na deimlad bod y Gwanwyn ar y ffordd… ac mae stoc newydd felly ar y ffordd! Ni’n disgwyl llwyth i’r siop wythnos nesaf. Am y tro, dyma damaid i aros pryd!

Stoc newydd o grochenwaith bendigedig Repeat Repeat. Mae rhain yn profi’n boblogaidd iawn bob tro!

Mae’r sgarffiau yma yn hyfryd – perffaith ar gyfer y gwanwyn. Ni’n dwli ar y cyfuniad glas / llwyd ac aur!


Beth am y fasged hyfryd hon? Hyfryd ar gyfer y stafell fyw!

No Responses