Sêl flwyddyn newydd

Written by  in category 
Ionawr 3, 2019

Blwyddyn newydd dda i’n holl gwsmeriaid! Diolch am eich cefnogaeth yn 2018 ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn 2019.

Mae gennym sêl arbennig yn y siop tan ddydd Sadwrn y 5ed o Ionawr. Mae’r holl eitemau yn y siop yn cynnwys gostyngiad o 20% (heblaw am y gemwaith a sgarffiau), ac mae peth stoc penodol gyda hyd at 50% i ffwrdd (rheiny sydd â sticyr arnynt). Brysiwch – mae bargeinion i’w cael yma! Dyma rhai o’n ffefrynnau…

Beth am y soffa hyfryd sydd wedi gwneud â llaw, lawr o £995 i £595;



Mae arbedion gwych ar yr eitemau yma hefyd;

Beth am y defnyddiau yma? ‘Drops’ 3 metr lawr i £20, bargen!


Dyma eitemau eraill ar y sêl, gan gynnwys bwrdd bargeinion, crochenwaith ac eitemau yn ein siop gegin;

Mae’r sêl yn dod i ben dydd Sadwrn 5ed o Ionawr ac rydyn ni wedyn yn edrych ymlaen at roi gweddnewidiad bach i’r siop ar gyfer y flwyddyn newydd. Welwn ni chi’n fuan gobeithio!

No Responses