Anrhegion Nadolig munud olaf

Written by   in 

Chwilio am anrhegion Nadolig munud olaf? Mae digon o ddewis gyda ni yn y siop, dewch i weld! Dyma rai syniadau…

Gemwaith newydd

Written by   in 

Mae gemwaith newydd wedi cyrraedd y siop – mae ein gemwaith wedi bod yn hynod o boblogaidd yn ddiweddar. Dyma steil newydd i ni yn y siop ac mae’r darnau yn hyfryd.

Mae bagiau a pyrsiau bach lledr hefyd wedi bod yn boblogaidd iawn. Anrheg wych!

Anrheg i rhywun sydd â phopeth!

Written by   in 

Ffeindio hi’n anodd meddwl am anrheg i rhywun sydd â phopeth yn barod? Mae gennym rai syniadau i chi yn ein siop gegin  – ar gyfer rhywun sydd yn hoffi coginio neu ar gyfer cegin teuluol prysur. Beth am rhain?

Diwedd y flwyddyn ar y gweill…

Written by   in 

Tra bod y Nadolig a’r flwyddyn newydd yn prysur agosau, ry’n ni wedi symud pethau o gwmpas ychydig yn y siop ac mae gennym beth stoc newydd. Dyma ein dewisiadau yr wythnos hon, os oes rhywbeth yn dal eich sylw dewch mewn neu ffoniwch ni!


Ni hefyd wrth ein bodd gyda’r llestri gwyn yma – weithiau does dim yn curo’r steil hyfryd a syml yma;

Stoc newydd yn y siop

Written by   in 

Mae amrywiaeth o stoc newydd yn y siop, digon o syniadau am anrhegion Nadolig neu i addurno’r cartref! Beth am rhai o rhain?

Stoc newydd a chynnig arbennig

Written by   in 

Mae anrhegion Nadolig yn hedfan mas o’r siop ar hyn o bryd. Dewch i gael gweld beth sydd gennym. Dydd Gwener 23 Tachwedd a dydd Sadwrn 24 Tachwedd bydd gennym gynigion arbennig yn y siop sef; 5% i ffwrdd os yn gwario £50 neu fwy, a 15% i ffwrdd os yn gwario £100 neu fwy yn y siop. (Nid yw’n cynnwys ffabrig dodrefnu na meddal).

Dyma ein dewis ni o syniadau am anrhegion sydd gennym yn y siop ar hyn o bryd;

Bwrdd Nadolig

Written by   in 
Ni wedi diweddaru ein bwrdd Nadolig yma yn Pethau Bychain! Beth chi’n meddwl ohono? Dewch i’r siop i weld y casgliad Nadolig llawn!

Anrhegion i bawb

Written by   in 

Yn ogystal â’n stoc Nadolig, mae gennym pob fath o syniadau ar gyfer anrhegion at y Nadolig (neu benblwyddi!). Dyma rhai o’n ffefrynau ar hyn o bryd…

Nadolig

Written by   in 

Mae’r Nadolig yn bendant wedi cyrraedd Pethau Bychain! Mae gennym llwyth o addurniadau ar gyfer pob steil ac o bob pris. Dewch mewn i gael golwg!

Siop Nadolig

Written by   in 

Mae ein deunydd Nadolig wedi cyrraedd y siop! Mae’r addurniadau yn mynd yn gyflym iawn a dim ond nifer cyfyngedig sydd gyda ni felly brysiwch os ydych chi am brynu rhai. Dyma’r rhai mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, sydd ar lawr gwaelod y siop:



Ar yr ail lawr gallwch weld ein bwrdd wedi ei addurno, a llawer mwy o addurniadau bendigedig. Bydd mwy o stoc yn cyrraedd yn fuan!