Siop Nadolig

Mae’r Nadolig wedi cyrraedd Pethau Bychain! Mae ein siop Nadolig nawr ar agor. Mae modd i dau berson fynd i’r ystafell ar y tro i sicrhau diogelwch.
Os nad ydych chi’n gallu dod i’r siop, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni edrych ar bostio nwyddau i chi. Mae gennym nwyddau bendigedig yn y siop sydd am wneud eich cartrefi yn glud a chroesawgar dros yr ŵyl.
Oriau Agor

Rydym ar agor ac yn edrych ymlaen i’ch croesawu chi yn fuan. Ein oriau agor nawr yw Dydd Mercher – Sadwrn, 9.30 tan 4. Rydym yn gwneud popeth allwn ni i wneud eich ymweliad yn saff ac yn brofiad i’w fwynhau.
Mae gennym stoc cyfyngedig yn y siop, ond mae deunydd yn cyrraedd bob wythnos nawr. Mae croeso i chi ein holi ni os ydych chi’n chwilio am rywbeth penodol trwy ebostio sales@pethaubychain.co.uk
Mae ein adran Dylunio Mewnol yn brysur iawn ac rydym yn gweithredu system apwyntiadau. Mae gennym apwyntiadau ar gael ond mae’n rhaid cysylltu gyda ni i drefnu.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.
Diweddariad Pethau Bychain

Yn dilyn y datblygiadau diweddaraf ac er mwyn diogleu ein cwsmeriaid a’n staff, rydym wedi penderfynu cau drysau siop Pethau Bychain am y tro. Byddwn dal yn gweithio ar archebion dylunio mewnol ac ar gael i dderbyn archebion defnyddiau, paent a deunydd i’r cartref. Cysylltwch gyda ni trwy sales@pethaubychain.co.uk / 01267 222251, 07974 351026 (Marian) neu 07969 299996 (Bethan). Cadwch yn saff ac fe welwn ni chi yn fuan.
Celfi’r Cymro
Casgliad Gwanwyn Thibaut
Lliwiau 2020
Prosiect dylunio mewnol – lluniau cychwynol…
Prosiect Dylunio Mewnol
Aelod newydd o staff
