Swydd newydd

Written by   in 

Mae gwasanaeth dylunio mewnol Pethau Bychain wedi ei leoli yn y siop brysur yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae’r busnes yn ymfalchio yn enw da y gwasanaeth mae’n ei gynnig, ac mae’r cwmni nawr yn awyddus i benodi unigolyn newydd a phrofiadol i ymuno â’r tîm prysur. Dyma gyfle arbennig i rywun ddatblygu eu gyrfa yn maes dylunio mewnol.

Rydym yn chwilio am berson profiadol yn maes dylunio mewnol a rheoli. Mae dealltwriaeth a gwybodaeth o ddefnydd a thecstiliau yn hollbwysig. Mae’r swydd wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin gyda disgwyl i deithio.

Mae’r cyflog yn ddibynol ar brofiad.  I ymgeisydd addas, cynigir peth hyfforddiant lle bo angen.

Lleiafswm o 4 diwrnod yr wythnos, oriau 9 tan 5.

I ymgeisio am y swydd, anfonwch eich CV a llythyr cais at sales@pethaubychain.co.uk erbyn canol dydd ar y dyddiad cau – 10 Mai 2019. 

Siop gegin

Written by   in 
Mae ein siop gegin yn barod ar gyfer yr haf. Mae gennym stoc newydd o sosbenni Stellar yn y siop sy’n cael eu gwerthu am bris cystadleuol iawn. Dyma ein dewis ni yr wythnos hon!

Stoc newydd

Written by   in 
Dyma ein dewis ni o’n stoc newydd yr wythnos hon. Ni’n caru’r soffa newydd yma! Mae gennym ddillad newydd, pyrsiau a waled sbectol, drych a mwy yn y siop – dewch i gael sbec!

Stoc newydd

Written by   in 

Lle mae’r flwyddyn hon yn mynd yn barod?! Mae ‘na deimlad bod y Gwanwyn ar y ffordd… ac mae stoc newydd felly ar y ffordd! Ni’n disgwyl llwyth i’r siop wythnos nesaf. Am y tro, dyma damaid i aros pryd!

Stoc newydd o grochenwaith bendigedig Repeat Repeat. Mae rhain yn profi’n boblogaidd iawn bob tro!

Mae’r sgarffiau yma yn hyfryd – perffaith ar gyfer y gwanwyn. Ni’n dwli ar y cyfuniad glas / llwyd ac aur!


Beth am y fasged hyfryd hon? Hyfryd ar gyfer y stafell fyw!

Soffa Steil Sgandi

Written by   in 

Ni’n dwli ar steil sgandi yn Pethau Bychain, felly wrth gwrs ni mewn cariad gyda’r soffa newydd yma sydd yn y siop! Byddai’n berffaith ar gyfer y gegin, ystafell wely, ystafell ddarllen neu lolfa fach. Allwn ni ei chreu mewn unrhyw ddefnydd – dewch i gael gweld!

(Diweddariad – mae hwn wedi gwerthu ond ni’n edrych am un tebyg!)

Cornel Plant

Written by   in 

Dewch i mewn i’r siop i weld y gornel plant hyfryd rydyn ni wedi ei greu. Eisiau syniadau ar gyfer ystafell i blant? Dewch i ni eich ysbrydoli!

Dodrefn newydd

Written by   in 

Os wnewch chi alw yn y siop mae’n bosib y gwnewch chi sylwi ar ychydig o newid i’r ail lawr, lle rydym yn datblygu ochr dylunio mewnol y busnes. Mae gennym ddewis eang o ddodrefn ac opsiynau dylunio mewnol, ac mae modd i chi archebu soffa a chadair freichiau mewn defnydd a lliw o’ch dewis chi – ar gyfer eich cyllideb hefyd. Dyma rhai o’r darnau newydd yn y siop;

Santes Dwynwen

Written by   in 

Chwilio am yr anrheg perffaith ar gyfer Santes Dwynwen? Mae digon o syniadau gyda ni yn y siop! Beth am rhai o rhain?

Bwrdd a chadeiriau ar y sêl

Written by   in 

Mae’r bwrdd bendigedig a mainc ar y sêl ac mae modd cynnwys tair cadair hefyd. Dyma’r prisiau:

Y bwrdd, y fainc a’r 3 cadair, i lawr o £3845 i £3300
Y bwrdd a’r fainc i lawr o £2795 i £2400


Dewis yr wythno

Written by   in 
Dyma ein dewisiadau ni ar gyfer yr wythnos hon. Llawer o stoc newydd ar y ffordd hefyd!