Diweddariad Pethau Bychain

Written by   in 

Yn dilyn y datblygiadau diweddaraf ac er mwyn diogleu ein cwsmeriaid a’n staff, rydym wedi penderfynu cau drysau siop Pethau Bychain am y tro. Byddwn dal yn gweithio ar archebion dylunio mewnol ac ar gael i dderbyn archebion defnyddiau, paent a deunydd i’r cartref. Cysylltwch gyda ni trwy sales@pethaubychain.co.uk / 01267 222251, 07974 351026 (Marian) neu 07969 299996 (Bethan). Cadwch yn saff ac fe welwn ni chi yn fuan. 

Ffenest newydd

Written by   in 
Beth y chi’n meddwl o’n ffenest newydd? Cyfle i arddangos defnydd bendigedig Jab Anstoetz, wedi ei ysbrydoli gan yr artist Monet.

Celfi’r Cymro

Written by   in 
Ni’n falch iawn i fod yn cydweithio gyda nifer o fusnesau lleol er mwyn creu dodrefn a dylunio mewnol ar gyfer eich cartref. Yr un diweddaraf yw Celfi’r Cymro sydd wedi creu y ddresel fendigedig hon. Mae ar gael mewn unryw liw a maint – o’ch dewis chi. Cysylltwch gyda ni am sgwrs.