Clustogau i ddiweddaru ystafell

Written by   in 
Ydych chi’n chwilio am ffordd rwydd o ddiweddaru ystafell? Mae gennym glustogau o bob math yn y siop sydd yn ffordd berffaith i ddiweddaru edrychiad ystafell. Dewch i weld beth sydd gyda ni!

Swydd newydd

Written by   in 

Mae gwasanaeth dylunio mewnol Pethau Bychain wedi ei leoli yn y siop brysur yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae’r busnes yn ymfalchio yn enw da y gwasanaeth mae’n ei gynnig, ac mae’r cwmni nawr yn awyddus i benodi unigolyn newydd a phrofiadol i ymuno â’r tîm prysur. Dyma gyfle arbennig i rywun ddatblygu eu gyrfa yn maes dylunio mewnol.

Rydym yn chwilio am berson profiadol yn maes dylunio mewnol a rheoli. Mae dealltwriaeth a gwybodaeth o ddefnydd a thecstiliau yn hollbwysig. Mae’r swydd wedi ei lleoli yng Nghaerfyrddin gyda disgwyl i deithio.

Mae’r cyflog yn ddibynol ar brofiad.  I ymgeisydd addas, cynigir peth hyfforddiant lle bo angen.

Lleiafswm o 4 diwrnod yr wythnos, oriau 9 tan 5.

I ymgeisio am y swydd, anfonwch eich CV a llythyr cais at sales@pethaubychain.co.uk erbyn canol dydd ar y dyddiad cau – 10 Mai 2019. 

Siop gegin

Written by   in 
Mae ein siop gegin yn barod ar gyfer yr haf. Mae gennym stoc newydd o sosbenni Stellar yn y siop sy’n cael eu gwerthu am bris cystadleuol iawn. Dyma ein dewis ni yr wythnos hon!

Stoc newydd

Written by   in 
Dyma ein dewis ni o’n stoc newydd yr wythnos hon. Ni’n caru’r soffa newydd yma! Mae gennym ddillad newydd, pyrsiau a waled sbectol, drych a mwy yn y siop – dewch i gael sbec!