Stoc newydd: Sul y Mamau a’n hoff eitemau newydd

Written by   in 
Mae’n ddiwedd wythnos prysur o dderbyn stoc newydd i’r siop! Mae gemwaith bendigedig newydd gyda ni, fyddai’n anrheg perffaith ar gyfer Sul y Mamau. Mae ‘na eitemau hyfryd hefyd yn yr adran i blant, gan gynnwys y sanau hyfryd yma! Dyma eitemau eraill newydd ni’n hoff iawn ohono. Gobeithio welwn ni chi yn y siop yn fuan!

Lliwiau’r Gwanwyn a Sul y Mamau

Written by   in 

Gyda Sul y Mamau ar y gorwel ddiwedd y mis (Mawrth 31) mae gennym emwaith newydd hyfryd yn y siop, fyddai’n gwneud anrheg perffaith. Beth am rai o rhain?

Ni wrth ein bodd gyda lliwiau’r Gwanwyn sydd yn siop y gegin. Ffordd wych o ddod â lliw i gegin y cartref!

Cornel Plant

Written by   in 
Mae gennym fwy o stoc yn ein Cornel Plant gan gynnwys blancedi meddal hyfryd yn berffaith ar gyfer babis, a ‘bean bag’ ar gyfer stafell plant. Dewch i gael golwg!

Papur wal newydd

Written by   in 

Mae gennym stoc eang o bapur wal yn y siop, yn addas ar gyfer pob cyllideb. Dewch i gael golwg – ni’n newid y rhai sydd yn cael eu harddangos yn aml, ac mae gennym lyfrau di-ri mae croeso i chi edrych arnynt.

Blodau Ffug

Written by   in 
Mae Blodau Ffug yn ffordd wych o ddiweddaru unrhyw ystafell yn y tŷ mewn ffordd syml. Dyma ddewis o rai sydd gennym mewn stoc ar hyn o bryd!