Stoc newydd

Written by   in 

Mae llwyth o stoc newydd wedi cyrraedd y siop. Dewch i gael golwg! Dyma flas o’r hyn sydd wedi cyrraedd. Digon o ddewis ar gyfer steiliau gwahanol.

Galeri celf ar agor!

Written by   in 
Mae ein galeri celf newydd wedi agor ar y trydydd llawr! Mae’n llawn gwaith celf bendigedig ac unigryw i’ch cartref. Dewch i gael golwg!

Stoc newydd

Written by   in 

Lle mae’r flwyddyn hon yn mynd yn barod?! Mae ‘na deimlad bod y Gwanwyn ar y ffordd… ac mae stoc newydd felly ar y ffordd! Ni’n disgwyl llwyth i’r siop wythnos nesaf. Am y tro, dyma damaid i aros pryd!

Stoc newydd o grochenwaith bendigedig Repeat Repeat. Mae rhain yn profi’n boblogaidd iawn bob tro!

Mae’r sgarffiau yma yn hyfryd – perffaith ar gyfer y gwanwyn. Ni’n dwli ar y cyfuniad glas / llwyd ac aur!


Beth am y fasged hyfryd hon? Hyfryd ar gyfer y stafell fyw!

Soffa Steil Sgandi

Written by   in 

Ni’n dwli ar steil sgandi yn Pethau Bychain, felly wrth gwrs ni mewn cariad gyda’r soffa newydd yma sydd yn y siop! Byddai’n berffaith ar gyfer y gegin, ystafell wely, ystafell ddarllen neu lolfa fach. Allwn ni ei chreu mewn unrhyw ddefnydd – dewch i gael gweld!

(Diweddariad – mae hwn wedi gwerthu ond ni’n edrych am un tebyg!)

Cornel Plant

Written by   in 

Dewch i mewn i’r siop i weld y gornel plant hyfryd rydyn ni wedi ei greu. Eisiau syniadau ar gyfer ystafell i blant? Dewch i ni eich ysbrydoli!

Dodrefn newydd

Written by   in 

Os wnewch chi alw yn y siop mae’n bosib y gwnewch chi sylwi ar ychydig o newid i’r ail lawr, lle rydym yn datblygu ochr dylunio mewnol y busnes. Mae gennym ddewis eang o ddodrefn ac opsiynau dylunio mewnol, ac mae modd i chi archebu soffa a chadair freichiau mewn defnydd a lliw o’ch dewis chi – ar gyfer eich cyllideb hefyd. Dyma rhai o’r darnau newydd yn y siop;