Lliwiau Hydrefol

Written by   in 

Mae gennym llwyth o stoc newydd yn y siop yr wythnos hon, ac heddiw rydyn ni’n paratoi’r siop ar gyfer yr Hydref a Nadolig! Dyma ein dewisiadau ar gyfer yr wythnos hon. Dewch mewn i’r siop i weld y casgliad llawn!

Lluniau a Drychau

Written by   in 

Yr wythnos hon ry’n ni’n canolbwyntio ar bethau bendigedig i addurno waliau’r cartref. Mae ganddon ni dri llun newydd arbennig yn y siop, yn cynnwys un o feicwyr (roedden ni wrth ein boddau yn gweld Tour of Britain yn dod trwy Gaerfyrddin penwythnos diwethaf!). Mae dau o’r lluniau yma gyda ni ac un yn ffenest y siop. Ni’n dwli ar y steil!



Mae hefyd ganddon ni’n llun arbennig yma yn ffenest y siop, sydd yn cynnwys enwau cantorion byd enwog… yn cynnwys yr anhygoel Aretha Franklin fu farw yn ddiweddar. Dyma ddarn arbennig iawn o gelf!



Gwaith celf newydd arall yn y siop yw’r darn prydferth yma sydd â naws hyfryd a morwrol.



Mae hefyd ganddon ni stoc eang o ddrychau i roi ar y waliau. Dyma flas i chi ond dewch i’r siop i weld y casgliad cyfan.