Barod i bobi yn y gegin!

Written by   in 

Mae bron yn amser hynny o’r flwyddyn pan mae’r diwrnodau yn dechrau byrhau a’n hoff raglen yn cychwyn ar y teledu… Great British Bake Off! Mae ganddon ni lawer o stoc newydd yn ein Siop Gegin – popeth sydd ei angen arnoch chi ar gyfer coginio a phobi. Dyma flas o’r hyn sydd yn y siop:

Anrhegion perffaith

Written by   in 

Chwilio am anrheg penblwydd neu ar gyfer cartref newydd? Neu eisiau rhywbeth neis i’ch hunan? Mae pob fath o anrhegion gyda ni yn y siop – rhwbeth ar gyfer pawb ac yn amrywio mewn pris. Dyma flas i chi, dewch mewn i’r siop i weld y cyfan sydd ar gael.

Sgarffiau

Written by   in 

Mae’r sgarffiau yma newydd gyrraedd y siop ac yn barod yn profi yn hynod o boblogaidd. Ni wrth ein bodd gyda’r lliwiau ac mae nhw mor feddal. Dewch i weld drosto eich hunan yn y siop – neu ffoniwch ni os hoffech chi gadw un i chi.

Carthenni newydd

Written by   in 

Chwilio am garthen newydd i’r cartref? Mae ganddon ni gasgliad hyfryd i ddewis ohono. Dewch i gael golwg ar y samplau sydd gyda ni yn y siop, ac fe allwn ni archebu’r garthen perffaith i chi. Ni’n dwli ar y patrymau sydd ar gael!

Mae ganddon ni hefyd garthen hyfryd yn y siop:

Neu beth am glustog fawr i orffwys y traed ar gyfer yr ystafell eistedd? Mae’r un melyn yma yn fendigedig! Ni wrth ein bodd gyda mwstard, gwyn a llwyd…!