Pethau Bychain Mae’r siopau yn cynnwys 6 llawr sy’n orlawn gyda anrhegion, dodrefn, tecstilau,  lampiau, drychau a nifer o nwyddau eraill gogyfer a’r cartref.  Dewisir popeth yn ofalus  er mwyn sicrhau safon uchel a nwyddau unigryw am bris rhesymol. Newidir yr  arddangosfa yn gyson a daw’r stoc o bob cwr or Deyrnas Unedig ac Ewrop. Datblygir y  casgliadau yn gyson  gan gyflwyno syniadau newydd a chyfoes. Mae Pethau Bychain  yn  gyflenwyr swyddogol gogyfer brandiau blaenllaw megis Lloyd Loom, Vincent  Sheppard, Brink a Campman, TCH, Sibona, Harlequin, Warwick, Jab, Villa Nova,  Kandola, Jars Ceramistes, Carrie Elspeth  i enwi dim ond rhai.   Ein dodrefn.....  Cynnigir ystod eang o steiliau gwahanol, addas i bob math o gartrefi – o’r traddodiadol i’r cyfoes . Ceisiwn sicrhau bod ein prisiau’n gystadleuol trwy stocio celfi gan amrywiaeth o wneuthurwyr. Ein soffas……..  Cyfoes. . . traddodiadol. . . patrymog. . . plaen. Trwy  gydweithio gyda  Pethau Bychain, gallwch ddylunio eich soffa eich  hun. Steil, siâp, maint, deunydd – Chi sydd i ddewis! Defnyddiwch eich dychymyg ac ewch amdani! Galwch mewn am sgwrs! Ein oriau agor yw 9:30yb – 5:00yp Dydd Llun i Ddydd Sadwrn  51-52 HEOL Y BRENIN   CAERFYRDDIN, DE CYMRU. SA31 1BH.  Carmarthen / Caerfyrddin Tel/Ffon  01267 222251 eBost:  gwerthiant@pethaubychain.co.uk eMail: sales@pethaubychain.co.uk