Cynllunio Mewnol Dyw hyn ddim yn costio'r byd ond mae'n gwneud byd o wahaniaeth Mae'r galw am wasanaeth Ymgynghorol a Chynllunio Cartrefi a gynnigir gan Pethau Bychain yn cynyddu. Bellach mae'n portffolio yn cynnwys nifer o gartrefi, bythynod gwyliau ac yn ddiweddar, gwesty cyfan. Beth bynnag fo'ch angen, boed yn bâr o lenni wedi eu saernio'n grefftus, neu'n dŷ cyfan newydd sbon, mi fyddwn yn hapus i'ch cynorthwyo. Mae'r stoc eang o gelfi, tecstiliau, lampau, drychau ac yn y blaen yn golygu ein bod ni'n gallu cynnig arddulliau gwahannol, ac os nad ydym ni'n ei werthu, yna bid siwr i chi, fe allwn ddod o hyd i rhyw gwmni sydd ! Carmarthen / Caerfyrddin Tel/Ffon  01267 222251 eBost:  gwerthiant@pethaubychain.co.uk eMail: sales@pethaubychain.co.uk